Memorandum submitted by Welsh Assembly Government

 

Broadband Speed

 

1. The Welsh Assembly Government recognises that widespread access to affordable, secure broadband is important to businesses and citizens across Wales. The challenge is to ensure that the communications infrastructure enables access to the services required by both businesses and citizens wherever they are. It is vital therefore that government, regulator and industry address this challenge and thus build a thriving and prosperous Welsh economy.

 

2. To this end, the Assembly Government has a history of working with the telecommunications industry and the communications regulator, Ofcom to share information on communications infrastructure issues, understand barriers to investment, including regulatory, planning and economic issues, and inform future policy making in this area.

 

3. The Assembly Government launched a programme of activities in 2002 to transform broadband availability and take up across Wales. The programme covered a mix of supply and demand activities based on European Commission rules and best practice. The underlying principle was that Government would only intervene where necessary and appropriate, in a technology neutral manner.

 

4. By July 2007 the Assembly Government had taken action to ensure that all telephone exchanges in Wales had been DSL-enabled for broadband services; making broadband available to an additional 7,500 premises. The impact of these activities has been positive and has been reflected in a sharp rise in consumer take-up figures for broadband since this date.

 

5. Despite these efforts there are still some premises that continue to face difficulties accessing a broadband service. The Regional Innovative Broadband Support (RIBS) scheme is focussed on bringing a broadband solution to these locations. In December 2008 it was announced that the project would address several known notspot clusters in Pembrokeshire, Ceredigion, Carmarthenshire and Conwy. This work was completed in August 2009 and work is now underway to identify the next areas for investment.

 

6. The Assembly Government has also taken steps to stimulate economic growth and encourage enterprise in North Wales by improving access to competitive communications infrastructure in the region through the FibreSpeed project. This joint venture between the Assembly Government, European Regional Development Funds and Geo Networks Ltd constitutes £30 million of investment over 15 years. The new network is creating a competitive retail market for service providers who are now able to sell a diverse range of affordable (benchmarked against London & the south east of England) voice and data services in the region. The open access approach to the project has been recognised by both Ofcom and UK Government as an exemplary approach to public funded broadband intervention. The project was also referenced by the European Commission recent consultation on the application of state aid rules in publicly funded broadband networks.

 

7. In addition, action is underway to transform broadband access across the public sector in Wales via the Public Sector Broadband Aggregation (PSBA) project. Public sector sites are connected to the network using either fibre or copper circuits at a range of bandwidths involving different security profiles dependent on the business requirements of each site. There are currently in excess of 850 connected sites, with new sites added to the network daily. As a result of PSBA, public sector employees from participating organisations will be able to exploit advanced voice, video and data services according to the business requirements of their organisation more cost effectively and securely than in the past.

 

8. Alongside these actions, the Assembly Government has been an active participant in the UK debate on next generation broadband deployment. Through responses to Ofcom consultations and through dialogue with other devolved administrations, UK government and the communications industry, the Assembly Government has called for an open debate on the introduction of a universal service obligation for broadband. The Assembly Government is of the view that the introduction and implementation of an universal service commitment for broadband should be conducted in such a way as to incentivise and leverage investment in faster broadband services beyond the natural market-led footprint traditionally associated with communications services roll out.

 

9. As a result of Digital Britain, a new body, the UK National Design and Procurement Group (NDPG), will be established in October 2009 to oversee the procurement of a supplier(s) to deliver the Universal Service Commitment (USC) of 2Mbps across the UK by 2012. The Assembly Government will directly contribute to the governance of this new body and will ensure that the wealth of knowledge and experience amassed since 2002 in addressing broadband issues in Wales is used to facilitate the widespread availability of faster broadband services across the UK. It is envisaged that this knowledge and experience will allow Wales to benefit early from the USC.

 

22 September 2009


Cyfraniad Llywodraeth Cynulliad Cymru at Ymchwiliad y Pwyllgor Busnes a Menter i gyflymder band eang

 

1. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n cydnabod ei bod yn bwysig i fusnesau a dinasyddion ledled Cymru fod modd iddynt gael gwasanaethau band eang fforddiadwy a diogel. Yr her yw sicrhau bod y seilwaith cyfathrebu'n galluogi i fusnesau a dinasyddion gael y gwasanaethau angenrheidiol ble bynnag y maent. Mae'n hanfodol felly bod y llywodraeth, y rheolydd a'r diwydiant yn mynd i'r afael â'r her hon ac felly'n meithrin economi ffyniannus yng Nghymru.

 

2. I'r perwyl hwn, mae Llywodraeth y Cynulliad yn y gorffennol wedi cydweithio â'r diwydiant telathrebu a'r rheolydd cyfathrebu, Ofcom, i rannu gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud â'r seilwaith cyfathrebu, deall y rhwystrau rhag buddsoddi, gan gynnwys materion rheoleiddio, cynllunio, ac economaidd, a llywio polisïau yn y maes hwn yn y dyfodol.

 

3. Yn 2002, lansiodd Llywodraeth y Cynulliad raglen o weithgareddau i drawsnewid y gwasanaethau band eang sydd ar gael ledled Cymru a'r niferoedd sydd mewn sefyllfa i fanteisio ar y gwasanaethau hynny. Roedd cymysgedd o weithgareddau'n ymwneud â chyflenwi a galw yn seiliedig ar reolau ac arfer gorau'r Comisiwn Ewropeaidd yn rhan o'r rhaglen hon. Yr egwyddor y tu ôl i hyn oedd na fyddai'r Llywodraeth ond yn ymyrryd pan yr oedd yn angenrheidiol neu'n briodol, ac y byddai'n gwneud hyn o safbwynt technoleg ac mewn modd diduedd.

 

4. Erbyn mis Gorffennaf 2007, roedd Llywodraeth y Cynulliad wedi cymryd camau i sicrhau bod pob cyfnewidfa ffôn yng Nghymru yn addas ar gyfer gwasanaethau band eang DSL; gan ei gwneud yn bosibl i 7,500 o safleoedd eraill gael defnyddio band eang. Mae'r camau hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y cwsmeriaid sydd wedi ymuno â gwasanaeth band eang ers y dyddiad hwn.

 

5. Er gwaethaf yr ymdrechion hyn, mae rhai safleoedd yn parhau i'w chael yn anodd cael gwasanaethau band eang. Mae'r cynllun Cymorth Band Eang Arloesol Rhanbarthol yn canolbwyntio ar ddod o hyd i ateb i'r ardaloedd hyn o ran cael gwasanaethau band eang. Cyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2008 y byddai'r prosiect yn mynd i'r afael â sawl clwstwr yn Sir Benfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Chonwy sy'n fannau gwan ar gyfer derbyn band eang. Cwblhawyd y gwaith hwn ym mis Awst 2009, ac mae gwaith wedi dechrau i bennu'r ardaloedd nesaf i fuddsoddi ynddynt.

 

6. Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd wedi cymryd camau i annog twf economaidd a mentergarwch yn y Gogledd drwy ei gwneud yn haws i ddefnyddio seilwaith cyfathrebu cystadleuol y rhanbarth drwy'r prosiect FibreSpeed. Mae'r fenter hon ar y cyd rhwng Llywodraeth y Cynulliad, Cronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Geo Networks Ltd yn cynrychioli buddsoddiad o £30 miliwn dros 15 mlynedd. Mae'r rhwydwaith newydd yn creu marchnad fanwerthu gystadleuol i ddarparwyr gwasanaeth sydd bellach yn gallu gwerthu ystod amrywiol o wasanaethau llais a data (sydd wedi'u meincnodi yn erbyn Llundain a de-ddwyrain Lloegr), yn y rhanbarth. Mae'r dull agored hwn o gyflawni'r prosiect wedi'i gydnabod gan Ofcom a Llywodraeth y DU fel dull i'w efelychu wrth ariannu ymyraethau band eang drwy gyllid cyhoeddus. Cyfeiriodd y Comisiwn Ewropeaidd at y prosiect mewn ymgynghoriad diweddar ar ddefnyddio rheolau cymorth gwladwriaethol yng nghyd-destun rhwydweithiau band eang sy'n derbyn arian cyhoeddus.

 

7. Yn ogystal â hynny, mae camau'n cael eu cymryd ar hyn o bryd i drawsnewid mynediad at wasanaethau band eang ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru drwy brosiect Rhwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA). Mae safleoedd y sector cyhoeddus yn cysylltu â'r rhwydwaith drwy gylchedau ffibr neu gopr o wahanol led band sy'n cynnwys gwahanol broffiliau diogelwch gan ddibynnu ar ofynion busnes pob safle. Mae dros 850 o safleoedd ar y rhwydwaith ar hyn o bryd, a chaiff safleoedd newydd eu hychwanegu bob dydd. O ganlyniad i PSBA, gall gweithwyr yn y sector cyhoeddus o sefydliadau sy'n cymryd rhan fanteisio, yn unol â gofynion busnes eu sefydliad, ar wasanaethau llais, fideo a data yn rhatach ac yn ddiogelach nag oedd yn bosibl yn y gorffennol.

 

8. Ochr yn ochr â'r camau hyn, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi chwarae rhan weithredol yn nhrafodaeth y DU ynghylch defnyddio band eang y genhedlaeth nesaf. Drwy atebion i ymgynghoriadau Ofcom a thrwy drafodaethau gyda gweinyddiaethau datganoledig eraill, Llywodraeth y DU a'r diwydiant cyfathrebu, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gofyn am drafodaeth agored ynghylch cyflwyno rhwymedigaeth gwasanaeth gyffredinol sy'n ymwneud â band eang. Ym marn Llywodraeth y Cynulliad, dylid cyflwyno a rhoi'r rhwymedigaeth gwasanaeth gyffredinol ar gyfer band eang ar waith mewn modd a fydd yn annog ac yn ysgogi buddsoddiad mewn gwasanaethau band eang cyflymach y tu hwnt i'r ôl troed naturiol a arweinir gan y farchnad sy'n gysylltiedig yn draddodiadol â chyflwyno gwasanaethau cyfathrebu.

 

9. O ganlyniad i Brydain Ddigidol, caiff corff newydd, Grŵp Dylunio a Chaffael Cenedlaethol y DU, ei sefydlu ym mis Hydref 2009, i gadw llygad ar y broses o gaffael cyflenwyr er mwyn sicrhau gwireddu'r Rhwymedigaeth Gwasanaeth Gyffredinol o 2Mbps ar draws y DU erbyn 2012. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyfrannu'n uniongyrchol at lywodraethu'r corff newydd hwn ac yn sicrhau y caiff yr wybodaeth a'r profiad helaeth sydd wedi cael eu meithrin ers 2002 o ran mynd i'r afael â materion band eang yng Nghymru eu defnyddio i hwyluso'r broses o ddarparu gwasanaethau band eang cyflymach ar draws y DU. Rhagwelir y bydd yr wybodaeth a'r profiad hyn yn galluogi Cymru i fod ymhlith y cyntaf i elwa ar y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Gyffredinol.