Broadband - Business, Innovation and Skills Committee Contents


Cyfraniad Llywodraeth Cynulliad Cymru at Ymchwiliad y Pwyllgor Busnes a Menter i gyflymder band eang

  1.  Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru'n cydnabod ei bod yn bwysig i fusnesau a dinasyddion ledled Cymru fod modd iddynt gael gwasanaethau band eang fforddiadwy a diogel. Yr her yw sicrhau bod y seilwaith cyfathrebu'n galluogi i fusnesau a dinasyddion gael y gwasanaethau angenrheidiol ble bynnag y maent. Mae'n hanfodol felly bod y llywodraeth, y rheolydd a'r diwydiant yn mynd i'r afael â'r her hon ac felly'n meithrin economi ffyniannus yng Nghymru.

  2.  I'r perwyl hwn, mae Llywodraeth y Cynulliad yn y gorffennol wedi cydweithio â'r diwydiant telathrebu a'r rheolydd cyfathrebu, Ofcom, i rannu gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud â'r seilwaith cyfathrebu, deall y rhwystrau rhag buddsoddi, gan gynnwys materion rheoleiddio, cynllunio, ac economaidd, a llywio polisïau yn y maes hwn yn y dyfodol.

  3.  Yn 2002, lansiodd Llywodraeth y Cynulliad raglen o weithgareddau i drawsnewid y gwasanaethau band eang sydd ar gael ledled Cymru a'r niferoedd sydd mewn sefyllfa i fanteisio ar y gwasanaethau hynny. Roedd cymysgedd o weithgareddau'n ymwneud â chyflenwi a galw yn seiliedig ar reolau ac arfer gorau'r Comisiwn Ewropeaidd yn rhan o'r rhaglen hon. Yr egwyddor y tu ôl i hyn oedd na fyddai'r Llywodraeth ond yn ymyrryd pan yr oedd yn angenrheidiol neu'n briodol, ac y byddai'n gwneud hyn o safbwynt technoleg ac mewn modd diduedd.

  4.  Erbyn mis Gorffennaf 2007, roedd Llywodraeth y Cynulliad wedi cymryd camau i sicrhau bod pob cyfnewidfa ffôn yng Nghymru yn addas ar gyfer gwasanaethau band eang DSL; gan ei gwneud yn bosibl i 7,500 o safleoedd eraill gael defnyddio band eang. Mae'r camau hyn wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae wedi arwain at gynnydd sylweddol yn nifer y cwsmeriaid sydd wedi ymuno â gwasanaeth band eang ers y dyddiad hwn.

  5.  Er gwaethaf yr ymdrechion hyn, mae rhai safleoedd yn parhau i'w chael yn anodd cael gwasanaethau band eang. Mae'r cynllun Cymorth Band Eang Arloesol Rhanbarthol yn canolbwyntio ar ddod o hyd i ateb i'r ardaloedd hyn o ran cael gwasanaethau band eang. Cyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2008 y byddai'r prosiect yn mynd i'r afael â sawl clwstwr yn Sir Benfro, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Chonwy sy'n fannau gwan ar gyfer derbyn band eang. Cwblhawyd y gwaith hwn ym mis Awst 2009, ac mae gwaith wedi dechrau i bennu'r ardaloedd nesaf i fuddsoddi ynddynt.

  6.  Mae Llywodraeth y Cynulliad hefyd wedi cymryd camau i annog twf economaidd a mentergarwch yn y Gogledd drwy ei gwneud yn haws i ddefnyddio seilwaith cyfathrebu cystadleuol y rhanbarth drwy'r prosiect FibreSpeed. Mae'r fenter hon ar y cyd rhwng Llywodraeth y Cynulliad, Cronfeydd Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Geo Networks Ltd yn cynrychioli buddsoddiad o £30 miliwn dros 15 mlynedd. Mae'r rhwydwaith newydd yn creu marchnad fanwerthu gystadleuol i ddarparwyr gwasanaeth sydd bellach yn gallu gwerthu ystod amrywiol o wasanaethau llais a data (sydd wedi'u meincnodi yn erbyn Llundain a de-ddwyrain Lloegr), yn y rhanbarth. Mae'r dull agored hwn o gyflawni'r prosiect wedi'i gydnabod gan Ofcom a Llywodraeth y DU fel dull i'w efelychu wrth ariannu ymyraethau band eang drwy gyllid cyhoeddus. Cyfeiriodd y Comisiwn Ewropeaidd at y prosiect mewn ymgynghoriad diweddar ar ddefnyddio rheolau cymorth gwladwriaethol yng nghyd-destun rhwydweithiau band eang sy'n derbyn arian cyhoeddus.

  7.  Yn ogystal â hynny, mae camau'n cael eu cymryd ar hyn o bryd i drawsnewid mynediad at wasanaethau band eang ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru drwy brosiect Rhwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA). Mae safleoedd y sector cyhoeddus yn cysylltu â'r rhwydwaith drwy gylchedau ffibr neu gopr o wahanol led band sy'n cynnwys gwahanol broffiliau diogelwch gan ddibynnu ar ofynion busnes pob safle. Mae dros 850 o safleoedd ar y rhwydwaith ar hyn o bryd, a chaiff safleoedd newydd eu hychwanegu bob dydd. O ganlyniad i PSBA, gall gweithwyr yn y sector cyhoeddus o sefydliadau sy'n cymryd rhan fanteisio, yn unol â gofynion busnes eu sefydliad, ar wasanaethau llais, fideo a data yn rhatach ac yn ddiogelach nag oedd yn bosibl yn y gorffennol.

  8.  Ochr yn ochr â'r camau hyn, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi chwarae rhan weithredol yn nhrafodaeth y DU ynghylch defnyddio band eang y genhedlaeth nesaf. Drwy atebion i ymgynghoriadau Ofcom a thrwy drafodaethau gyda gweinyddiaethau datganoledig eraill, Llywodraeth y DU a'r diwydiant cyfathrebu, mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gofyn am drafodaeth agored ynghylch cyflwyno rhwymedigaeth gwasanaeth gyffredinol sy'n ymwneud â band eang. Ym marn Llywodraeth y Cynulliad, dylid cyflwyno a rhoi'r rhwymedigaeth gwasanaeth gyffredinol ar gyfer band eang ar waith mewn modd a fydd yn annog ac yn ysgogi buddsoddiad mewn gwasanaethau band eang cyflymach y tu hwnt i'r ôl troed naturiol a arweinir gan y farchnad sy'n gysylltiedig yn draddodiadol â chyflwyno gwasanaethau cyfathrebu.

  9.  O ganlyniad i Brydain Ddigidol, caiff corff newydd, Gr?p Dylunio a Chaffael Cenedlaethol y DU, ei sefydlu ym mis Hydref 2009, i gadw llygad ar y broses o gaffael cyflenwyr er mwyn sicrhau gwireddu'r Rhwymedigaeth Gwasanaeth Gyffredinol o 2Mbps ar draws y DU erbyn 2012. Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cyfrannu'n uniongyrchol at lywodraethu'r corff newydd hwn ac yn sicrhau y caiff yr wybodaeth a'r profiad helaeth sydd wedi cael eu meithrin ers 2002 o ran mynd i'r afael â materion band eang yng Nghymru eu defnyddio i hwyluso'r broses o ddarparu gwasanaethau band eang cyflymach ar draws y DU. Rhagwelir y bydd yr wybodaeth a'r profiad hyn yn galluogi Cymru i fod ymhlith y cyntaf i elwa ar y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Gyffredinol.

22 September 2009







 
previous page contents

House of Commons home page Parliament home page House of Lords home page search page enquiries index

© Parliamentary copyright 2010
Prepared 23 February 2010